Skip to main content

Ymgynghoriad Cyhoeddus Fferm Wynt Ogwr Uchaf

Fel rhan angenrheidiol ac allweddol o gais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) rydym wrthi'n cynnal ymgynghoriad statudol ar ein cais cynllunio drafft i gysylltu fferm wynt newydd â'n rhwydwaith dosbarthu trydan yng Nghymru.

Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg o ddydd Mercher 12 Tachwedd 2025 i ddydd Llun 5 Ionawr 2026.

Gellir gweld ein llyfrgell ddogfennau yma.

Bydd y cysylltiad newydd yng Nghymoedd Ogwr Uchaf, Garw a Llynfi ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd, Port Talbot, yn cysylltu fferm wynt newydd Ogwr Uchaf â'n rhwydwaith mewn man sy'n agos at safle fferm wynt Foel Trawsnant, sydd wedi cael caniatâd. I bweru'r fferm wynt newydd, bydd 9km (5.6 milltir) o gebl trydan 66kV newydd yn cael ei osod, gan gynnwys 4.1km (2.5 milltir) o linellau pŵer uwchben a 4.9km (3 milltir) o geblau tanddaearol.

Wedi'i lleoli yng nghymoedd Garw ac Ogwr, bydd Fferm Wynt Ogwr Uchaf yn defnyddio saith tyrbin i gynhyrchu 25MW o ynni adnewyddadwy y flwyddyn - digon i bweru tua 16,500 o gartrefi. Cafodd fferm wynt Ogwr Uchaf ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn 2022.

Gallwch weld ein cais cynllunio drafft ar gyfer y cysylltiad grid yma sy'n cynnwys cyfres o ddogfennau technegol. Yn ogystal, rydym hefyd wedi paratoi Crynodeb Annhechnegol a Llyfryn Ymgynghori sy'n tynnu sylw at elfennau allweddol y cynigion a'r canfyddiadau a nodwyd yn ein Datganiad Amgylcheddol.

Rydym yn croesawu eich barn, yn ogystal â digwyddiadau cymunedol, gallwch roi eich adborth drwy glicio ar y ddolen ar gyfer y ffurflen ar-lein neu anfon e-bost atom yn nged.upperogmore@nationalgrid.co.uk

Y Cynigion

Bydd y llwybr cysylltu yn cynnwys llinellau uwchben a fydd wedi'u lleoli ar bolion pren a cheblau tanddaearol a fydd yn gorwedd yn rhannol ar draws Ffiniau Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, gan ddechrau a gorffen yn yr ardal a gwmpesir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae natur y gwaith yn golygu na fydd unrhyw ffyrdd yn cael eu cau'n llwyr. Lle mae angen cau rhan o'r ffordd, bydd rheoli traffig a goleuadau traffig ar waith tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo. Byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau priffyrdd i drefnu a lleihau'r aflonyddwch o ganlyniad i'r gwaith hwn.

Lawrlwytho Cynllun Llwybr

Byddai'r llwybr arfaethedig yn cychwyn o'r cysylltiad grid arfaethedig â Foel Trawsnant i'r gogledd-orllewin o Nantyffyllon ac yn mynd ymlaen i Fferm Wynt Ogwr Uchaf, fel a ganlyn:

  1. Yn dechrau i'r gorllewin o'r A4063, ger Caerau, gyda chysylltiad i ffwrdd 'T' o Gysylltiad Grid Foel Trawsnant, fel OHL am oddeutu 1.1km (hanner milltir).
  2. Wrth i'r llwybr gyrraedd Caerau, mae'n trawsnewid i UGC gan ddilyn y rhwydwaith priffyrdd presennol am tua 1.7km (1 filltir) i'r gogledd.
  3. Yn union cyn cyrraedd Heol Brynheulog, mae'r llwybr yn mynd yn ôl i OHL am tua 3km (2 filltir) i'r dwyrain.
  4. I'r gorllewin o Glawdd Mawr, mae'r llwybr yn trawsnewid yn ôl i UGC ac yn parhau tua'r dwyrain am 3.2km (2 filltir) tuag at yr is-orsaf yn fferm wynt Ogwr Uchaf. Yn ystod y rhan hon o'r llwybr byddai'n teithio'n rhannol drwy dir comin Mynydd Llangeinor.

Lawrlwytho cylchlythyr

Ymgynghoriad Statudol

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 12 Tachwedd 2025 i 5 Ionawr 2026. Anogir partïon â diddordeb, trigolion lleol a rhanddeiliaid i adolygu'r cynigion ac anfon eu hadborth.

Bydd dau ddigwyddiad cymunedol hefyd a fydd yn rhoi cyfle i bobl drafod y cynigion ag aelodau o dîm y prosiect. Bydd y Digwyddiadau Cymunedol yn digwydd ar:

  • Dydd Mercher 3 Rhagfyr 2pm-8pm yng Nghanolfan Menter Gymunedol Croeserw, SA13 3PL
  • Dydd Iau 4 Rhagfyr 10am-2pm yn Noddfa, 77 Heol Caerau, Caerau, CF34 0PB

Gallwch lawrlwytho'r byrddau arddangos o'r arddangosfa gyhoeddus, yma

Diogelu Data

Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn paratoi adroddiad ymgynghoriad yn arddangos sut rydym wedi adolygu ac ymateb i'r holl adborth a dderbyniwyd.

Dim ond at ddiben y cais cynllunio y bydd unrhyw adborth a dderbynnir yn cael ei ddefnyddio a'i anfon ymlaen at PEDW. Ni fydd yn cael ei ddatgelu i unrhyw drydydd partïon.

Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu hanfon ymlaen yn gyfrinachol i PEDW fel y gallwch gael gwybod am eu hymgynghoriad ar y cais ac ni fyddant yn cael eu rhestru mewn unrhyw ddogfennaeth cais cynllunio.

I ddeall beth rydym yn ei wneud â'ch data, darllenwch ein 'Polisi Preifatrwydd GDPR' yma.

Gallwch ofyn i'ch manylion gael eu dileu unrhyw bryd trwy gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion isod neu ar y dudalen 'Cysylltu â Ni.

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol:

  • Ffôn: 01656 334 319
  • E-bost: nged.upperogmore@nationalgrid.co.uk
  • Post: Freepost GRASSHOPPER CONSULT (nid oes angen stamp na chyfeiriad ychwanegol). Bydd y manylion cyswllt uchod yn eich rhoi mewn cysylltiad â Grasshopper Communications sy'n rheoli'r ymgynghoriad ar ran National Grid Electricity Distribution.