Skip to main content

Is-orsaf 132kV Llandyfaelog

Gweld y dudalen hon yn Gymraeg

 Rydym ar hyn o bryd yn datblygu cynigion ar gyfer is-orsaf 132 cilofolt (kV) newydd, a seilwaith cysylltu cysylltiedig, ger Llandyfaelog, i'r de o Gaerfyrddin.

Mae ein gwaith uwchraddio arfaethedig wedi'i ddylunio i atgyfnerthu'r rhwydwaith 132 kV presennol rhwng Caerfyrddin ac Abertawe, gan gefnogi'r twf yn y galw am drydan yng Nghaerfyrddin a'r sir ehangach, sy'n cael ei fwydo o is-orsaf Gogledd Abertawe ar hyn o bryd.

Mae’r rhwydwaith trydan wrthi’n mynd trwy drawsnewidiad sylfaenol wrth i natur galw a chynhyrchiad newid. Rydym yn gweld cynnydd sylweddol yn y nifer o gysylltiadau sy’n gysylltiedig gydag ynni adnewyddadwy ar raddfa fach (gwynt a solar), a thrydaneiddio gwres (pympiau gwres) a thrafnidiaeth (Cerbydau Trydan), gyda'r galw am drydan am ddyblu'n genedlaethol erbyn 2050. Mae hyn yn rhoi mwy fyth o bwys ar gael rhwydwaith dosbarthu gwydn sy’n addas am alw trydan y dyfodol.


Pwy yw National Grid Electricity Distribution (NGED)?

National Grid Electricity Distribution (NGED) yw un o bedwar endid cyfreithiol gwahanedig sydd gyda’i gilydd yn ffurfio National Grid yn y DU. Rydym yn berchen ar ac yn gweithredu’r rhwydwaith dosbarthiad trydan am De a Gorllewin Cymru, a Chanolbarth a De-orllewin Lloegr.

Ni yw eich gweithredwr rhwydwaith dosbarthu (DNO) lleol, ac mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i gysylltu’r galw am a hefyd y cynhyrchiad o drydan i ein rhwydwaith. Rydym yn cymryd egni o’r rhwydwaith trawsyrru, sy’n cael ei weithredu gan National Grid Electricity Transmission (NGET), ac yn ei ddosbarthu ar draws ein system i wedyn cael ei drawsnewid i foltedd is am ddosbarthiad diogel i gartrefi a busnesau.

Fel rhan o’n gwasanaeth o ddarparu egni i dros 2 miliwn o gwsmeriaid yn Ne a Gorllewin Cymru, rydym yn buddsoddi £1.2 biliwn rhwng 2023 – 2028 er mwyn cynnal, atgyfnerthu, ac uwchraddio’r rhwydwaith trydan i sicrhau cyflenwad trydan dibynadwy a rhwydwaith gwydn.


Beth rydym yn ei gynnig?

Mae ein cais cynllunio ar gyfer adeiladu a gweithredu is-orsaf 132 kV a seilwaith cysylltu cysylltiedig.

Mae cais cynllunio NGET yn cynnwys darparu llwyfan gwastad ar gyfer y tair is-orsaf. Mae elfennau sy’n ymwneud â mynediad, tirlunio, a draeniad yn cael eu hysytried fel rhan o gais NGET am is-orsaf 400 kV ar yr un safle.

Mae lleoli ein his-orsafoedd ar yr un safle yn lleihau’r angen am linellau uwchben newydd am rwydweithiau trawsyriad a darpariad National Grid.

Bydd ein cais cynllunio yn cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Gaerfyrddin yn haf 2026.


Pam bod angen yr is-orsaf?

Mae ein gwaith uwchraddio grid arfaethedig wedi'i ddylunio i atgyfnerthu'r rhwydwaith 132 kV presennol rhwng Caerfyrddin ac Abertawe, gan gefnogi'r twf yn y galw am drydan yng Nghaerfyrddin a'r sir ehangach, sy'n cael ei fwydo o is-orsaf Gogledd Abertawe ar hyn o bryd.

Rydym yn gwneud hyn er mwyn gwella gwydnwch a chapasiti'r rhwydwaith dosbarthu lleol, gyda'r nod o ddiwallu'r cynnydd a ragwelir yn y galw sy'n gysylltiedig â datblygiadau tai, gweithgarwch busnes, a'r nifer sy'n defnyddio technolegau glân yn yr ardal.


Ble mae safle’r is-orsaf arfaethedig?

Bydd ein his-orsaf newydd wedi’i lleoli tua 6km i’r de o Gaerfyrddin. Cynigir mynediad i’r safle o ffordd fynediad newydd a fydd yn cysylltu â’r A484.

Er bod ein cynigion ar wahân i gais NGET am is-orsaf 400 kV newydd, byddant yn rhan o ôl troed safle NGET, sy'n golygu na fydd cynnydd yn y tir a gynigir ar gyfer seilwaith grid newydd o ganlyniad i'n cais.

Mae cais cynllunio NGET yn cynnwys darparu llwyfan gwastad ar gyfer yr is-orsafoedd 400 kV a 132 kV. Drwy gyfuno'r holl waith tir yn un cais, bydd yn sicrhau bod y tir yn cael ei ddefnyddio’n fwy effeithlon, draenio effeithiol a llai o effeithiau adeiladu ar gyfer y tair is-orsaf. Byddwn yn gweithio'n agos gyda NGET drwy gydol y broses i leihau'r effaith ar y gymuned leol.

Bydd unrhyw gysylltiadau newydd â safle is-orsaf Llandyfaelog yn y dyfodol yn amodol ar y trefniadau cydsynio priodol ac yn cael eu pennu gan yr awdurdodau perthnasol ar y pryd.

Yr awdurdodau perthnasol fydd yn penderfynu ar gysylltiadau yn y dyfodol, yn hytrach na NGET a NGED fel gweithredwyr rhwydwaith, a bydd pob cais cynllunio'n cael ei asesu ar sail ei rinweddau unigol ei hun.


Sut mae hyn yn wahanol i gynigion NGET?

Efallai eich bod yn ymwybodol bod NGET wedi ymgynghori â chymunedau lleol ger Llandyfaelog yn 2025 ynghylch ei gynigion ar gyfer is-orsaf 400 kV newydd.

NGET sy'n berchen ar y rhwydwaith trawsyrru trydan yng Nghymru a Lloegr ac yn ei gynnal, ac mae ganddo rwymedigaeth gyfreithiol i gysylltu cwsmeriaid â'r rhwydwaith pan ofynnir am gysylltiad. Pan nad oes gan is-orsafoedd presennol y capasiti ar gyfer maint y cysylltiad sydd ei angen, mae’n ofynnol i NGET adeiladu un newydd i ddiwallu’r angen.

Mae NGET yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer is-orsaf 400 kV mewn ymateb i geisiadau cysylltu ar gyfer dwy is-orsaf 132 kV gan Green GEN Cymru a NGED, yn y drefn honno. Mae is-orsaf NGET yn galluogi NGED, fel gweithredwr y rhwydwaith dosbarthu, i wneud gwaith uwchraddio cyfatebol i'r rhwydwaith dosbarthu 132 kV lleol.

Mae cynigion NGED yn gam pwysig ymlaen o ran uwchraddio'r grid er mwyn darparu cyflenwad trydan diogel, sefydlog a dibynadwy i gartrefi ac i fusnesau yn y dyfodol.


Beth yw is-orsafoedd a sut maen nhw’n gweithio?

Mae is-orsafoedd yn rhannau hanfodol o’r rhwydweithiau trawsyrru a dosbarthu ac yn sicrhau bod modd symud trydan o amgylch y rhwydwaith ar wahanol folteddau, mewn ffordd ddiogel a dibynadwy.

Un o'r prif bethau mae is-orsaf yn ei wneud yw trawsnewid trydan i folteddau gwahanol. Mae angen gwneud hyn er mwyn gallu trawsyrru'r trydan ar draws y wlad ar foltedd uchel, ac yna ei anfon ar foltedd is at y cwsmer ar y rhwydwaith dosbarthu lleol.

Mae NGET yn cymryd trydan sy'n cael ei gynhyrchu o ffynonellau pŵer mawr, fel gwynt ar y môr, gorsafoedd pŵer niwclear a nwy, ac yn ei gludo drwy ei rwydwaith o linellau uwchben, ceblau ac is-orsafoedd.

Fel y gweithredwr rhwydwaith dosbarthu (DNO) am De a Gorllewin Cymru, mae NGED yn cymryd y pŵer o'r rhwydwaith trawsyrru ac yn ei dosbarthu ar draws ein system, fel ei bod yn gallu cael ei drawsnewid i foltedd is a’i ddosbarthu’n ddiogel i gartrefi a busnesau.

Mae NGED hefyd yn cysylltu cynhyrchiad ar raddfa lai, megis ynni solar a gwynt ar y tir, ac ynni cymunedol.


Sut gall cymunedau ddweud eu dweud?

Rydym yn ymwybodol bod cymunedau lleol a chynrychiolwyr wedi cael eu hymgynghori ar nifer o brosiectau yn yr ardal dros y misoedd diwethaf. Serch hyn, gan fod NGED yn endid ar wahân i NGET, mae’n bwysig rydym gyda dealltwriaeth o’r holl bryderon a chyfleodd bosib sy’n dod yn uniongyrchol o’r gymuned.

Dechreuom ni ymgysylltiad cynnar gyda rhanddeiliaid a’r gymuned leol yn Ionawr 2026 gyda’r digwyddiadau wyneb-i-wyneb ac ar-lein canlynol:

  • Dydd Iau 29 Ionawr, 3.00yp – 7.00yp – Neuadd Gymunedol Llandyfaelog, Llandyfaelog, SA17 5PA
  • Dydd Sadwrn 31 Ionawr, 11.00yb - 3.00yp - Neuadd Gymunedol Llandyfaelog, Llandyfaelog, SA17 5PA
  • Dydd Mercher 4 Chwefror, 6.30yp – 8.00yp - gweminar ar-lein

Byddwn yn cynnal ein Hymgynghoriad Cyn-Ymgeisio (PAC) yn hwyr yn y gwanwyn, ble mi fydd yna’r cyfle i gyflwyno adborth ar ein cynigion.


Llyfrgell Dogfennau

Dyma gopïau o’r cais arfaethedig, y cynlluniau, a dogfennau atodol eraill.


Beth nesaf?

Byddwn yn cynnal ein Hymgynghoriad Cyn-Ymgeisio (PAC) tuag at ddiwedd gwanwyn 2026.

Rydym yn parhau â’n trafodaethau â thirfeddianwyr ac yn cynnal arolygon a gwaith technegol ac amgylcheddol yn safle arfaethedig yr is-orsaf, ac o’i gwmpas, i roi rhagor o wybodaeth i ni am yr ardal ac i helpu i lywio ein cynlluniau. Mae’n bosibl y byddwch chi’n ein gweld ni a’n contractwyr yn gweithio yn y safle arfaethedig ac o’i gwmpas.

Rydym yn bwriadu cyflwyno ein cais cynllunio i Gyngor Sir Caerfyrddin yn Haf 2026.


Sut mae cael yr wybodaeth ddiweddaraf am is-orsaf arfaethedig NGED?

Gallwch gofrestru eich diddordeb yma i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am is-orsaf arfaethedig NGED ger Llandyfaelog.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am is-orsaf arfaethedig NGED ger Llandyfaelog, gallwch hefyd gysylltu â’n tîm cysylltiadau cymunedol drwy:

Anfon e-bost i: ngedllandyfaelog@nationalgrid.com

Ffonio: 0800 1884 484